Genesis 49

Jacob yn bendithio ei feibion

1Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.

2“Dewch yma i wrando, feibion Jacob;
gwrandwch ar Israel, eich tad.
3Reuben, ti ydy fy mab hynaf;
fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni –
yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.
4Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr –
fyddi di ddim yn gyntaf.
Est ti i mewn i wely dy dad,
a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig –
gorwedd ar glustogau dy dad!
5Mae Simeon a Lefi yn frodyr.
Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.
6Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth –
dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl.
Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion
fel rhai'n gwneud ychen yn gloff am hwyl.
7Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy;
am ddigio a bod mor greulon.
Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw
ar hyd a lled Israel!
8Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di.
Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion.
Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.
9Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc
wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben.
Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew,
a does neb yn meiddio aflonyddu arno.
10Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda.
Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion
nes daw pobl i dalu teyrnged iddo.
Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.
11Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,
a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.
Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin
a'i fantell yng ngwaed y grawnwin.
12Mae ei lygaid yn gochion gan win,
a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
13Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.
Bydd yn hafan ddiogel i longau.
Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
14Mae Issachar fel asyn cryf
yn gorwedd dan bwysau ei baciau.
15Gwelodd le da i orffwys
a bod y wlad yno yn hyfryd.
Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn
a chael ei hun yn gaethwas.
16Bydd Dan yn rheoli ei bobl
fel un o lwythau Israel.
17Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –
fel gwiber ar y llwybr
yn brathu troed y ceffyl
a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
18Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o Arglwydd!
19Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad,
ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.
20Bydd bwyd cyfoethog gan Asher.
Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.
21Mae Nafftali fel ewig yn rhedeg yn rhydd,
sy'n cael llydnod hardd.
22Mae Joseff yn gangen ffrwythlon –
cangen ffrwythlon wrth ffynnon,
a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.
23Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno,
yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.
24Ond daliai ei fwa'n llonydd
ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim.
Roedd Un Cryf Jacob gydag e –
y Bugail, Craig Israel.
25Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di;
y Duw sy'n rheoli popeth.
49:25 Hebraeg,  Shadai

Bydd e'n dy fendithio di
gyda'r bendithion o'r awyr uchod,
a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod,
gyda bendithion y fron a'r groth.
26Mae'r bendithion gafodd dy dad
yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol
a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi.
Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff –
ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
27Mae Benjamin fel blaidd rheibus,
yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore,
ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”

28Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.

Jacob yn marw a chael ei gladdu

29Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir
49:29 Hebraeg, “Dw i'n cael fy nghasglu at fy mhobl”
. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.
30Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu. 31Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi eu claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi eu claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea. 32Cafodd y darn tir a'r ogof sydd ynddo ei brynu gan yr Hethiaid.”

33Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.

Copyright information for CYM